Saturday 23 June 2007

Gordon Brown

Mae Gordon Brown wedi cyrraedd ei ucheglais ( wel bron a bod beth bynnag) o ddod yn Brif Wenidog. Fe fydd yn dechrau'r swydd ar ddydd Mercher. Y cwestiwn sydd ar wefusau pawb yw a fydd yn Brif Wenidog addas ar gyfer Prydain? Neithiwr fel rhan o'i ymgyrch 'croesawi' roedd yn cael ei gyfweld gan 4 o gyfwelwyr mwyaf cas y BBC; Nick Robinson, Evan Davies, Martha Kearney o 'News Night' a John Simpson oedd yn siarad o'r Helmann Province yn Afganhistan. Roedd yn rhaglen diddorol ac yn wahanol i'r arfer roedd Mr. Brown wedi ymlacio'n llwyr ac yn ateb cwestiynau yn hollol hyderus. Mae rhaid dweud fy mod i wedi newid fy marn ar Gordon Brown mwy a mwy dros yr wythnosau dwethaf ac rwy'n dod yn fwy o gefnogwr gyda'r dydd. Cafodd y Prif Wenidog i fod ei gwestiynu ar bob ran o wleidyddiaeth. Cafodd cwestiynau ei godi ar yr Ewro, dyfodol ein system addysg, GIG, swyddi cabinet a'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac wrth gwrs Irac i enwi ond ychydig. Oll yn oll roeddwn i'n meddwl bod Gordon Brown wedi ateb yn dda ac yn llawn ac ar yr un pryd ei wneud mewn iaith syml roedd yn bosib ei ddeall ( Rhywbeth efallai mae Gordon Brown wedi sylweddoli bod angen newid ar gyfer yr ymgyrch!) ac felly mae gen i gobeithion mawr am y flynyddoedd nesaf, ac rwy'n gobeithio na fydd yn ein gadael i lawr!

Gordon Brown has finally reached his greatest ambition ( wel almost anyway) of becoming PM. He'll start the job this Wednesday. The question on everyones lips of course is whether he'll make a good Prime Minister who's suited for the job of ruling Britain? Last night as part of his 'welcoming' tour he took questions on News Night from 4 of the BBC's most grueling reporters; Nick Robinson, Evan Davies, Martha Kearney and John Simpson who was questioning all the way from Helmann Province in Afganhistan via Video-Link. It was an extremley interesting programme and suprisingly Gordon Brown answered difficult questions very calmly and very confidently. I must say that over the last few weeks I have warmed more and more to Gordon Brown. The PM to be was questioned on all kinds of topic from the Euro, to education, the NHS, cabinet posts ( including the odd choice of possible Lib Dem ministers) and of course Iraq to name but a few. I must admit that I thought Gordon Brown answered well and fully in a way that was understandable ( possibly something he's had to learn since starting the tour!) and so I have great hope for our new Prime Minister in the years to come, I just hope he wont let us down!

No comments: