Sunday 17 June 2007

Ceidwadwyr am stopio mynediad am ddim i Amgueddfeydd Prydain

Mae Hugo Swire y 'shadow sec' am ddiwylliant wedi dwedu bod amgueddfeydd ddim yn gweithio'n digon effeithiol gan bod nhw ddim yn gallu codi tal am fynediad a thrwy hynny gwneud digon o arian. Mae'r deddf sydd wedi atal pob amgueddfa sy'n cael ei berchen gan y wladwriaeth rhag codi tal yn ol Swire yn stopio'r amgueddfeydd rhag cael ei redeg yn effeithiol, hynny yw bod yr amgueddfeydd methu cynnal ei hyn. Er efallai bod hynny'n wir dydw i ddim yn deall pam mae'r Ceidwadwyr ddim yn edrych ar y deddf mewn ffordd positif. Efallai mae amgueddfeydd yn ffeindio hi'n anodd i gynnal ei hyn gyda'r budd-daliadau ma nhw'n derbyn o'r llywodraeth ond dydy hynny ddim yn rheswm i wneud nhw codi tal. Dyle'r llywodraeth edrych i roi mwy o arian i'r amgueddfeydd. Yn fy marn i mae'r polisi o wneud amgueddfeydd yn rhad ac am ddim yn un o polisiau diwyllianol gorau mae'r llywodraeth yma wedi gwneud. Mae wedi caniatau i bobl Prydain mwynhau'r gorffennol mewn ffordd newydd a chyffrous ac hefyd wedi ein annog i ddathlu ei hunaniaeth. Roeddwn i'n meddwl bod y Toriaid o blaid cofio'r gorffennol a'i ddathlu a'i pharchu, ond mae rhaid bod cabinet newydd 'trendy' David Cameron mor wael a'r lot dwetha.

David Swire the Shadow Culture Sec has announced that he believes that museums have fallen in to dis-repaire because they cannot afford to fund themselves because they are not allowed to charge for entry. This indeed could be true that the mueseums that are owned by the state are underfunded but this is no reason to abolish the free entry. I beleive that the free entry to them has been one of best culture policies this Government has implemented. It's allowed people to see their History, see their culture and have easy access to it. I always though that the Tories wanted us to celebrate our past and remember our history, obviously David Cameron's new trendy cabinet are as bad as the last lot.

No comments: